Ceredigion County Council
Teaching Assistant Level 2 – Llanarth Primary School
Teaching Assistant Level 2 – Llanarth Primary School at Ceredigion County Council, based in Ceredigion, paying £26,016 per annum. This is a permanent role.
- Pay
- £26,016 per annum
- Hours and contract
- Permanent · On site
- Location
- Ceredigion
- Closing date
- Sector
- Teaching Assistant
- DBS check
About 9% above the going rate for teaching assistant
Reference jobs/req106973
About the role
The following is an advert where the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential.
Ydych chi’n angerddol am gefnogi dysgu a datblygiad plant? Mae ysgol Llanarth yn chwilio am Gynorthwyydd Addysgu Lefel 2 ymroddedig ac eiddgar i ymuno â’r tîm o Staff am gyfnod o benodol. Mae hwn yn gyfle gwych i wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn yr ystafell ddosbarth a thu hwnt.
Fel Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2, byddwch yn:
Darparu cefnogaeth i ddisgyblion, gan gynnwys y rhai ag anghenion ychwanegol, gan eu helpu i gael mynediad at ddysgu a meithrin hyder.
Gweithio gydag athrawon i gyflwyno gwersi a gweithgareddau deniadol.
Cefnogi datblygiad Cynlluniau Addysg ac Ymddygiad Unigol.
Hyrwyddo cynhwysiant, annibyniaeth ac ymddygiad cadarnhaol.
Cynorthwyo gyda threfnu ystafell ddosbarth, paratoi adnoddau a gweithgareddau ysgol ehangach.
Rydym yn chwilio am rywun sydd:
Yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Sydd â phrofiad o weithio gyda phlant neu ofalu amdanynt.
Yn meddu ar gymwysterau perthnasol (NVQ 3 neu gyfwerth) a sgiliau llythrennedd/rhifedd da.
Yn gallu defnyddio TGCh yn effeithiol i gefnogi dysgu.
Yn gadarnhaol, yn hyblyg ac yn gallu meithrin perthnasoedd cryf gyda disgyblion, staff a theuluoedd.
Yn deall pwysigrwydd diogelu, cynhwysiant a gwaith tîm. Yn gyfnewid, byddwch yn ymuno â thîm cefnogol ac ymroddedig, gyda chyfleoedd ar gyfer hyfforddiant a datblygiad proffesiynol.
Yn gyfnewid, byddwch yn ymuno â thîm cefnogol ac ymroddedig, gyda chyfleoedd ar gyfer hyfforddiant a datblygiad proffesiynol.
Os ydych chi’n angerddol am helpu plant i lwyddo ac eisiau chwarae rhan allweddol yn eu haddysg, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Darganfyddwch fwy am ysgol Llanarth yma: ysgolllanarth.cymru
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Mr Steffan Jones ar [email removed]
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch.
Sylwch na fydd euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio
Reference: jobs/req106973 · Posted 1 day ago · Closes 4 Dec 2026 · Listed via Ceredigion County Council
Apply for this job
This role is listed via Ceredigion County Council. Applications are handled on the employer's site.
Apply on employer siteOpens the employer's website in a new tab.
Signed in? Every job you apply for counts toward your weekly goal and badges. How it works
Safe applying: a genuine employer will never ask you to pay for a DBS check, training or equipment, or move you onto WhatsApp before you are hired. If this listing does, report it and do not pay anything.