Teaching Assistant Level 2 x 2 – Ysgol Bro Teifi
Ceredigion County Council · Ceredigion
Teaching Assistant Level 2 x 2 – Ysgol Bro Teifi at Ceredigion County Council, based in Ceredigion, paying £26,016 per annum. This is a permanent role.
- Salary
- £26,016 per annum
- Location
- Ceredigion
- Contract
- Permanent
- Posted
- 1 day ago
- Closes
- 1 Nov 2026
- Sector
- Teaching Assistant
About 8% above the going rate for teaching assistant
Reference jobs/req106953
About the role
The following is an advert where the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential.
Mae Llywodraethwyr Ysgol Bro Teifi yn awyddus i benodi dau Gynorthwy-ydd Addysgu Lefel 2 i ymuno ag Adran Anghenion Dysgu Ychwanegol yr ysgol. Bydd un o’r swyddi’n cefnogi disgyblion oed cynradd, a’r llall yn cefnogi disgyblion oed uwchradd, gan eu helpu i wneud cynnydd yn eu dysgu a’u datblygiad. Mae Ysgol Bro Teifi yn ymfalchïo yn ei hethos gynhwysol, a bydd disgwyl i’r ymgeiswyr llwyddiannus gefnogi ein hegwyddorion craidd a gweithio’n effeithiol fel rhan o dîm cynhwysiant yr ysgol.
Nodwch yn eich datganiad cefnogol a hoffech wneud cais am y swydd Cynradd, y swydd Uwchradd, neu’r ddwy swydd.
Manylion y swydd:
Goruchwylio a chefnogi disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol gan sicrhau eu bod yn ddiogel a bod ganddynt fynediad at ddysgu.
Sefydlu perthynas dda gyda’r disgyblion, gan weithredu fel patrwm ymddwyn, a bod yn ymwybodol o anghenion unigol ac ymateb yn briodol iddynt.
Annog disgyblion i ryngweithio ag eraill ac i gymryd rhan mewn gweithgareddau o dan arweiniad yr athro neu’r athrawes.
Annog disgyblion i weithredu’n annibynnol, fel y bo’n briodol.
Cefnogi’r athro neu’r athrawes gyda’r gwaith o reoli ymddygiad disgyblion, gan gyflwyno adroddiad ar anawsterau, fel y bo’n briodol.
Cefnogi disgyblion i gael mynediad i’r cwricwlwm.
Agorwyd Ysgol Bro Teifi ym Medi 2016, yn dilyn buddsoddiad o £30m gan Gyngor Sir Ceredigion a Llywodraeth Cymru. Bro Teifi ydy’r ysgol pob-oed, cyfrwng Cymraeg cyntaf yng Nghymru ac mae’n cynnig cyfleusterau dysgu o’r radd flaenaf ar gyfer yr holl ddisgyblion, o’r lleiaf i’r hynaf.
Mae’r gallu i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Os am drafodaeth anffurfiol ynglŷn â’r swydd hon, cysylltwch â Phennaeth Ysgol Bro Teifi, Mr Gareth Evans ar [phone removed] neu drwy e-bost, [email removed].
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Reference: jobs/req106953 · Posted 1 day ago · Closes 1 Nov 2026 · Listed via Ceredigion County Council
Apply for this job
This role is listed via Ceredigion County Council. Applications are handled on the employer's site.
Apply on employer siteOpens the employer's website in a new tab.
Safe applying: a genuine employer will never ask you to pay for a DBS check, training or equipment, or move you onto WhatsApp before you are hired. If this listing does, report it and do not pay anything.